Cymru | Counter Terrorism Policing

If you see something that doesn’t feel right report it at gov.uk/ACT. In an emergency call 999.

Plismona Gwrthderfysgaeth Cymru

Fel cydweithrediad rhwng y pedwar heddlu yng Nghymru ac sy’n gysylltiedig â’r Rhwydwaith Gwrthderfysgaeth Genedlaethol, mae Plismona Gwrthderfysgaeth Cymru yn Uned Cudd-wybodaeth ac Ymchwilio sy’n darparu dull partneriaeth integredig wrth ymdrin â diogelwch cenedlaethol, terfysgaeth ac eithafiaeth ledled Cymru.

Mae’r uned yn tynnu ar nifer o arbenigedd gan gynnwys; ditectifs, ymchwiliadau, timau ymchwil a chudd-wybodaeth, timau plismona ffiniau, dadansoddwyr cudd-wybodaeth, ynghyd â chydweithwyr sy’n arbenigo mewn atal, hyfforddi a diogelwch gweithredol i gyd yn gweithio mewn partneriaeth i gadw Cymru’n ddiogel rhag terfysgaeth ac ofn terfysgaeth.

Heddluoedd Lleol

Mae Plismona Gwrthderfysgaeth Cymru yn gydweithrediad rhwng yr heddluoedd lleol a ganlyn

Heddlu De Cymru

Heddlu Dyfed-Powys

Heddlu Gwent

Heddlu Gogledd Cymru

Newyddion Diweddaraf o Gymru

Oriel